7fed – 12fed o Orffennaf yn Ysgybor Moelyci, Tregarth, Gwynedd
7fed Gorffennaf: Cyrraedd, ymgynnull, bwyta gyda'n gilydd, cwrdd â'n gilydd o 4yh
8fed – 11fed Gorffennaf: 4 diwrnod llawn o Gylch, Seremoni a dysgu gan Farwolaeth fel ein Hathrawes
12fed Gorffennaf: Cylch cau yn y bore, cau am hanner dydd ar gyfer teithio adref
Rydym yn cynnig Graddfa Llithro o daliad ar gyfer y cwrs ei hun (£350 - £950)
Mae pris y cwrs yn cynnwys llyfr gwaith ac aelodaeth o gymuned dŵla marwolaeth fyd-eang
Darperir cinio, mae swper yn yr ysgubor yn ddewisol ychwanegol
Costau llety heb eu cynnwys
Gallwch wersylla mewn pabell neu fan ar y safle ym Moelyci (£10 y noson); neu mae gwersylloedd lleol, byncdai, gwely a brecwast neu westai, neu gallwch gymudo o gartref os gallwch chi fynychu pob sesiwn a bod ar amser.
Ychydig o gefndir...
Sefydlwyd "Journey with Death" 10 mlynedd yn ôl gan Alexandra Derwen, sy'n dod o Sir y Fflint o dras Cymreig, ond heddiw yn Ddysgwr Cymraeg. Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno o amgylch y byd, ac ers hynny mae wedi tyfu i fod â chymuned fyd-eang o bron i 700 o ddŵlas marwolaeth. Mae Alexandra yn byw yn Nregarth, Gwynedd ac mae'n awdur 3 llyfr ar y golled ac adfer o Ddefodau Marwolaeth ac arferion cyd-alaru (y drioleg Lost Rites) ac mae'n siarad yn lleol ac yn fyd-eang am achos ac effaith y golled o’n defodau marwolaeth ac o wladychiad. Mae wedi bod yn freuddwyd ers amser maith i gynnal y cwrs yng Nghymru a chanoli'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn y gofod.
Yn ymuno â Bethan Rabjohns, dŵla marwolaeth o Abertawe, a Gwyneth Jones, hwylusydd gwaith galar profiadol o Ben Llŷn fel tîm, byddwn yn cynnal gofod dwyieithog lle gall pawb siarad yn rhydd am eu profiadau eu hunain o farwolaeth a cholled. Mae'r cwrs yn agored i bawb, yn enwedig siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg profiadol, a phobl o dras Gymraeg.
Mae'r ysgol haf wyneb-yn-wyneb yn Ysgybor Moelyci yn para 5 noson, 4 diwrnod llawn, a bydd yn dilyn yr enciliadau pwerus Journey with Death sydd wedi'u cynnal gan Alexandra ac wedi sefyll prawf amser. Gan weithio trwy lens animistaidd, mae croeso i rai o bob ffydd, a rhai heb yr un. Rydym yn plethu lleisiau ein Hynafiaid, gyda pharch at y tir, y lle a'r gofod. Rydyn ni'n archwilio galarnad (keening, lament), rydyn ni'n ymarfer gosod y meirw allan. Mae seremoni galar ar y 3ydd diwrnod. Rydym yn ymdrin â hanfodion yr hyn y mae dŵla marwolaeth yn ei wneud, ond yn bwysicach fyth, rydym yn gwreiddio ein hunain yn y ffyrdd hynafol, gan eu hail-ddychmygu ar gyfer yr oes fodern.
Nid oes unrhyw athrawon yma heblaw Marwolaeth ei hun; gofod ddi- hierarchaidd dan arweiniad ein straeon dynol. Mae'r tîm sy’n dal y gwaith yn hwyluswyr ostyngedig gyda chymaint ag unrhyw un i'w ddysgu eto.
Mae croeso i bob cwestiwn ar sacredcirclecic at gmail dot com
Welsh / Bilingual Death Doula Course
7th – 12th July at Ysgybor Moelyci, Tregarth, Gwynedd
7th July: Arrive, gather, eat together, meet each other from 4pm
8th – 11th July: 4 full days of Circle, Ceremony and learning from Death as our Teacher
12th July: Closing circle in the morning, close at midday for homeward travel
Sliding scale of payment offered for the course itself (£350 - £950)
Course price includes workbook and membership of global death doula community
Lunch is provided, dinner at the barn is an optional extra
Accommodation costs not included
Accommodation can be camping in tent or van onsite at Moelyci (£10 per night); local campsites, bunkhouses, B&B or hotels, or commute from home if you can make all sessions and be on time.
A Bit of Background…
“Journey with Death” was founded 10 years ago by Alexandra Derwen, who is from Flintshire with Welsh ancestry but today a Welsh Learner. The course is delivered globally and has since grown to have a worldwide community of nearly 700 death doulas. Alexandra lives in Tregarth, Gwynedd and is the author of 3 books on the loss and reclamation of Death Rites and collective mourning practices (Lost Rites trilogy) and speaks locally and globally on the cause and effect of the loss of our death rites and colonisation. It has long been a dream to hold the course in Wales and to centre the Welsh language and Welsh culture in the space.
Joined by Bethan Rabjohns, a death doula from Swansea, and Gwyneth Jones, an experienced grief work facilitator from Pen Llŷn, as a team we will hold a bilingual space where everyone can speak freely about their own experiences of death and loss . The course is open to all especially Welsh speakers, experienced Welsh learners and people with Welsh ancestry.
The in-person summer school at Ysgybor Moelyci spans 5 nights, 4 full days, and will follow the time-tested and radically powerful Journey with Death retreats that Alexandra runs. Working through an animist lens, those of all faiths and none are welcome. We weave together the voices of our Ancestors, with reverence and respect for the land, place and space. We explore keening and lament, we lay out the dead. There is a grief ceremony on the 3rd day. We cover the basics of what a death doula does, but more importantly we root ourselves in the ancient ways, reimagining them for modern times.
There are no teachers here except Death itself; a non-hierarchical space led by our human stories. The holding team are humble facilitators with as much as anyone to yet learn.
Questions welcome at sacredcirclecic at gmail dot com
TO SIGN UP CLICK ON THE CROW BELOW